06 Gorffennaf 2023
Ynghylch: Cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol: 39ain Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig
Annwyl Mark,
Cyfeiriaf at eich llythyr dyddiedig 12 Mehefin 2023, sy’n hysbysu Cadeirydd y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad o 39ain Uwchgynhadledd y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig o dan y cytundeb cysylltiadau rhyngsefydliadol (“y Cytundeb”) rhwng y Senedd a Llywodraeth Cymru.
Wedi trafod yr ohebiaeth hon fel Pwyllgor, byddem yn ddiolchgar, fel y Pwyllgor sy'n gyfrifol am gysylltiadau rhyngwladol, pe gallech rannu gohebiaeth yn y dyfodol am y Cyngor Prydeinig-Gwyddelig â ni hefyd. Byddem hefyd yn ddiolchgar o gael copi o'r cyfathrebiad y cytunwyd arno gan y Cyngor yn yr Uwchgynhadledd ynghyd â'r crynodebau misol y cytunwyd arnynt yn flaenorol o ymweliadau diplomyddol â Chymru ac ymweliadau tramor Gweinidogion. Rydym, unwaith eto, yn ddiolchgar am hyn.
Anfonir copi o’r llythyr hwn at y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad, Pwyllgor Newid Hinsawdd, yr Amgylchedd, a Seilwaith, y Pwyllgor Llywodraeth Leol a Thai, a’r Pwyllgor Cydraddoldeb a Chyfiawnder Cymdeithasol, gan y gwnaethoch rannu’r llythyr dyddiedig 12 Mehefin â hwy hefyd.
Yn gywir,
Delyth
Jewell AS
Cadeirydd y Pwyllgor
Croesewir
gohebiaeth yn Gymraeg neu Saesneg.
We welcome correspondence in Welsh or English.